Cynulliad Cenedlaethol Cymru | National Assembly for Wales

Y Pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg | Children, Young People and Education Committee

Ymchwiliad i Waith Ieuenctid | Inquiry into Youth Work

 

YW 03

Ymateb gan : Cyngor Sir Ynys Môn

Response from : Isle of Anglesey Council

Cwestiwn 1 - Beth yw eich barn ar allu pobl ifanc i gael mynediad i wasanaethau gwaith ieuenctid, gan gynnwys, er enghraifft:

- lefelau’r ddarpariaeth ledled Cymru ac unrhyw amrywiadau rhanbarthol;

- materion yn ymwneud â mynediad ar gyfer grwpiau penodol o ifanc pobl, er enghraifft, iaith, anabledd, natur wledig, ethnigrwydd?

·         Fel bod cyllidebau Cynghorau’n prinhau mae’r mynediad i wasanaethau gwaith ieuenctid ar draws Cymru yn prinhau’n ddybryd allan yn y cymunedau gwledig, gyda chlybiau Mynediad Agored yn cau a darpariaeth yn cael ei chanolbwyntio mewn ychydig o brif drefi.  Oherwydd diffyg trafnidiaeth i’r rhain, mae’n debygol na fydd yr ieuenctid o’r cartrefi tlotaf yn gallu mynychu darpariaeth fin nos.  Hefyd, gan bod yr iaith ar ei chryfaf mewn ardaloedd gwledig, mae’r cyfle i ymarfer y Gymraeg tu allan i’r ysgol yn mynd i fod yn brinnach.

 

·         Ar draws Cymru hefyd, mae cynghorwyr yn gorfod gwneud penderfyniadau anodd i ddileu cefnogaeth ariannol i’r mudiadau sy’n darparu gwasanaeth safonol yn y Gymraeg e.e. grantiau i’r Urdd, y Ffermwyr Ifanc, ar lefelau lleol, Cenedlaethol a phosibilrwydd o golli arian Ewropeaidd sylweddol.  Mae hyn yn mynd i gael effaith ar y cyfleoedd fydd i ieuenctid ymarfer yr iaith fel iaith fyw yn lle iaith ddosbarth.  Hefyd cyfleon i bobl ifanc gael datblygu’n bersonol a gwella eu siawns i gael mynediad i gyflogaeth neu goleg e.e. Gwobr Dug Caeredin.

 

·         Os fydd Gweithwyr Ieuenctid yn cael eu symud i weithio fwy—fwy mewn ysgolion (ac ymddengys bod hyn yn rhan o bolisi Adroddiad Donaldson), er y byddant mewn cyswllt hefo mwy o bobl ifanc, ni fyddant ar gael i’r rhai mwyaf bregus nad ydynt yn yr ysgolion (e.e. disgyblion sydd mewn PRUs neu yn derbyn Addysg allan o Ysgol (EOTAS).  Yn draddodiadol, dyma lle oedd Clwb Ieuenctid / Ffermwyr Ifanc etc yn gallu cynnig cyfle i rai pobl ifanc i ddisgleirio, er nad oeddent yn hapus mewn awyrgylch addysgol ffurfiol.

 

·          Tra’n cytuno hefo’r egwyddor i roi adnoddau i weithio hefo pobl ifanc sydd mwyaf bregus sydd ddim mewn Gwaith, Addysg na Hyfforddiant, neu’r rhai sy’n debygol o fod felly, mae gwneud hyn ar draul dileu popeth arall oedd y Gwasanaeth Ieuenctid yn ei gynnig yn un-llygeidiog, ac yn diystyrru dyheadau’r bobl ifanc rheini sy’n gwneud eu gorau ond angen dipyn bach o gymorth i wella eu cyfleoedd cyflogaeth, neu i wella eu sgiliau cymdeithasol, neu angen y gefnogaeth emosiynol oedd eu perthynas gyda gweithiwr ieuenctid yn gynnig iddynt.

Os ydych yn credu bod problemau penodol, sut y gellid eu datrys?

Parhau i fuddsoddi mewn pobl ifanc ond bod hefo gweledigaeth glir o lle dylai blaenoriaethau fod o fewn cyllidebau prin.  Mae Lloegr wedi torri eu gwasanethau ieuenctid i lawr i ddim byd bron mewn Awdurdodau mawr.  O’i gymharu hefo hyn mae’r Alban wedi parhau i fuddsoddi mewn darpariaethau i bobl ifanc, yn y sector statudol a gwirfoddol, ac o’r herwydd mae ganddynt welediaeth glir ar lefel Cenedlaethol, ac maent wedi magu cenhedlaeth o bobl ifanc sy’n wleidyddol effro, ac yn fodlon pleidleisio a brwydro am eu hawliau, tra bod Cymru a Lloegr yn parhau i weld apathi llwyr ymysg canran uchel o bobl ifanc mewn gwleidyddiaeth a diffyg ffydd mewn democratiaeth.

 


 

 

Cwestiwn 2 - Yn eich barn chi, pa mor effeithiol yw polisi a strategaeth gwaith ieuenctid Llywodraeth Cymru?

Wrth ateb y cwestiwn hwn, efallai y byddwch am ystyried:

- polisi a strategaeth gwaith ieuenctid penodol Llywodraeth Cymru, fel ‘y cynnig o ran Gwaith ieuenctid’; Siarter Gwaith Ieuenctid Cymru; Strategaeth Gwaith Ieuenctid Cenedlaethol Cymru 2014 i 2018;

- cyfrifoldebau adrannau Llywodraeth Cymru ac a oes dull cydlynol ar draws adrannau i gefnogi’r broses o ddarparu gwaith ieuenctid.

·         Mae’r Cynnig Gwaith Ieuenctid yn rhagorol, ond heb y cyllid i’w wireddu, ni fydd yn werth y papur mae wedi ei ysgrifennu arno.

 

·         Yn yr un modd, fel mae cyllid yn prinhau mae’r gallu i wireddu cynnwys y Strategaeth Gwaith Ieuenctid yn mynd ymhellach o afael gwasanaethau ieuenctid ar draws Cymru.

 

·          Mae gofynnion y Cynllun Ymgysylltu a Datblygiad hefyd yn rhoi disgwyliadau trwm ar Awdurdodau a hyd yma, ac yn ôl yr adroddiad ddaeth allan wythnos diwethaf ar hwn, nid yw’r mwyafrif o awdurdodau wedi cychwyn mwy na chrafu’r wyneb ar y gwaith hefo pobl ifanc NEETS 18+.

Yn eich barn chi, beth y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud yn wahanol/yn well o ran ei gwaith ieuenctid?

·         Sicrhau bod Gwaith Ieuenctid yn dod o dan un Adran gan Lywodraeth Cymru e.e. mae Gwaith Ieuenctid mewn un adran ond mae’r gwaith Ymgysylltu a Datblygiad mewn adran arall.  Mae gofynnion a blaenoriaethau’n niwlog felly, ac yn cael eu dehongli’n wahanol o Awdurdod i Awdurdod, a fydd y cynnig ar draws Cymru i bobl ifanc byth run fath, tra bod hyn yn digwydd.

 

·         Mae’r adran o fewn Llywodraeth Cymru sy’n gofalu am Waith Ieuenctid bellach mor fychan, fel nad ydynt yn gallu cynnig arweiniad i’r maes, ac maent yn gorfod comisiynnu bob darn o waith datblygol gan asiantaethau allanol, gyda’r rhain gan amlaf yn dod o Loegr.  Ni chredaf bod hyn yn gydnaws a’r weledigaeth o weld Llywodraeth Cymru yn arwain a datblygu eu polisiau eu hunain ar gyfer dyfodol y wlad. 

·          Barn bersonol – credaf y dylai bod Swyddogion Adran Ieuenctid y Cynulliad yn eistedd ar Gymdeithas Prif Swyddogion Cymru a CWVYS fel ein bod yn symud ymlaen hefo un llais, yn lle tynnu’n groes neu’n gweithio mewn seilos (ond nodaf eto barn bersonol yw hon, ac efallai na fyddai nifer o swyddogion eraill yn cytuno).

 

Cwestiwn 3- Beth yw eich barn ar y cyllid sydd ar gael ar gyfer gwaith ieuenctid, gan gynnwys cyllid a geir drwy law awdurdodau lleol, Llywodraeth Cymru, yr Undeb Ewropeaidd, a’r trydydd sector.

Mae’r lefel mae gwasanaethau ieuenctid o sir i sir yn ei dderbyn o’r RSG yn amrywiol iawn, ac yn dylanwadu’n fawr ar beth mae gwasanaethau’n gallu ei ddarparu.

 

Mae’r arian o grantiau eraill yn gwahaniaethu’n fawr o sir i sir e.e. mae rhai siroedd yn defnyddio grantiau fel Teuluoedd yn Gyntaf, neu Cymunedau’n Gyntaf i gyflogi Gweithwyr Ieuenctid neu Weithwyr Ieuenctid Ysgol, tra bod eraill yn dehongli telerau’r grant fel nad yw’n bosib gwneud hyn, felly mae hyn eto yn golygu bod y ddarpariaeth yn amrywio’n fawr o sir i sir.

 

Mae grantiau Ewrop yn allweddol yn y sir yma i weithredu’r Fframwaith Ymgysylltu a Chynnydd, o fewn y ddarpariaeth statudol a gwirfoddol.  Mae’r grantiau yma yn talu am weithwyr i gynnig cefnogaeth atodol i’r rhai mwyaf bregus, ac mae asiantaethau o fewn y Trydydd Sector megis yr Academi (Cymunedau’n Gyntaf) yng Nghaergybi, Di-gartref Ynys Môn a GISDA ymysg y darparwyr mwyaf pwysig o ran cynnig cefnogaeth arbenigol (bespoke) i ddatblygu unigolion i symud ymlaen i waith neu hyfforddiant.  Mae’r rhain i gyd yn ddibynnol iawn ar grantiau Ewropeaidd.

 

O ran y gynhysgaeth ddiwylliannol i bobl ifanc, mae’r Urdd wedi dibynnu llawer ar grantiau Ewropeaidd o ran datblygu eu canolfannau i lefel 21ganrif, ac o ran eu rhaglen weithgareddau a chwaraeon, ac o ran digwyddiadau Cenedlaethol megis yr Eisteddfod.

Os ydych o’r farn bod problemau yn y maes hwn, sut gellir eu datrys?

Yn dilyn Brexit, credaf bod angen i Lywodraeth Cymru fapio’n fanwl beth a ddarperir ar gyfer pobl ifanc ar draws Cymru a sut mae’n cael ei ariannu, gan y bydd angen iddynt fod hefo blaenoriaethau clir i’r dyfodol, fel eu bod yn gallu gwneud penderfyniadau’n sydyn ar beth i fuddsoddi ynddo, pan fyddwn yn gwybod beth fydd ar gael o’r pwrs cyhoeddus i’r dyfodol.


Cwestiwn 4 – Yn eich barn chi, a oes unrhyw faterion eraill sy’n berthnasol i’r ymchwiliad y dylid tynnu sylw’r Pwyllgor atynt?

(Er enghraifft: materion gweithlu; y Marc Ansawdd ar gyfer Gwaith Ieuenctid yng Nghymru; adeiladau a seilwaith; gwaith ieuenctid mewn ysgolion; materion trafnidiaeth; mynediad i dechnoleg ddigidol; ymgynghoriad Llywodraeth Cymru ar gynigion i gofrestru ac arolygu rhai lleoliadau addysg y tu allan i’r ysgol.)

Marc Ansawdd – syniad ardderchog, ond fel mae adnoddau’n prinhau efallai mai’r cwbl fydd o’n wneud yw nodi beth nad ydym bellach yn gallu ei ddarparu.

 

Adeiladau – ers y degawd diwethaf, mae’r mwyafrif o siroedd bellach wedi neu wrthi’n cael gwared o adeiladau a chanolfannau ieuenctid. Tra bod hyn yn gwanio’n teimlad o ‘berchnogaeth’ oedd gan bob ifanc ar eu hafan eu hunain, dyma’r unig ffordd mewn sawl awdurdod y gellir parhau i gynnal gwasanaeth.

 

Gwaith Ieuenctid mewn ysgolion – bydd yn cyrraedd mwy o bobl ifanc, ond efallai ddim yn cyrraedd y rhai mwyaf bregus, ac yn peryglu’r ddarpariaeth i bobl ifanc min nos, os yw’r gofynnion o ran cefnogi’r cwricwlwm addysgol yn mynd i gael ei lenwi hefo gweithgaredd yn ystod y dydd.  O brofiad yn y gorffennol pan gychwynwyd cynlluniau peilot rai blynyddoedd yn ôl mewn 8 Awdurdod i gyflogi Gweithwyr Ieuenctid Ysgol, o fewn 2 flynedd i gychwyn y prosiect, dim ond un Awdurdod oedd yn parhau i gynnig darpariaeth min nos.

 

Trafnidiaeth – rhinwedd lleoli Gweithwyr Ieuenctid mewn ysgol mewn egwyddor ydi eu bod ar gael i nifer uwch o bobl ifanc, cyn belled a bod yna fynediad agored i’r gweithiwr.  Y perygl yw y bydd amser y gweithiwr wedi ei neilltuo i weithio’n unig hefo’r bobl ifanc mwyaf trafferthus, neu’r rhai sydd ymneilltuo o addysg, ac felly mai cyrraedd llai o bobl ifanc fyddant ac nid mwy.  Hefyd, mae’r cyswllt cymunedol lle mae gweithiwr ieuenctid yn rhan o’u cymuned ac yn datblygu eu pobl ifanc i fod yn rhan annatod o’u cymuned yn cael ei golli.  Mae disgwyl y bydd y bwlch yma’n cael ei lenwi gan wirfoddolwyr yn afrealistig, yn yr oes sydd ohoni, gan bod bob un o’r mudiadau o’r sector gwirfoddol (Urdd, CffI, Sgowtiaid, Geidiaid, Clybiau Bechgyn a Merched etc) yn methu cynnal darpariaeth gyson oherwydd diffyg arweinyddion.

 

Mynediad i dechnoleg digidol – ni ddylai hwn byth gymeryd lle cyswllt hefo Gweithiwr Ieuenctid.  Mae perthyn i glwb neu fudiad yn rhoi man diogel i berson ifanc gyfarfod, meithrin ei sgiliau cymdeithasol a phersonol, a derbyn cefnogaeth emosiynol.  Mewn oes lle mae pobl ifanc yn cael eu radicaleiddio drwy gysylltiadau maent yn wneud ar y we, mae’r cyswllt personol yna lle gallai agweddau negyddol neu peryglus fod yn cael eu herio mewn cymdeithas neu glwb, yn mynd i fod yn fwy-fwy pwysig.  Mae gweithio mewn strwythur sy’n cael ei fonitro hefyd yn diogelu beth sy’n cael ei ddarparu ar gyfer pobl ifanc.    

Cofrestru – croesawu y bwriad i gofrestru gweithwyr ieuenctid, ond ni chredaf bod cofrestru lleoliadau yn mynd i fod yn ymarferol.

 

Cwestiwn 5 - Pe byddai’n rhaid ichi wneud un argymhelliad i Lywodraeth Cymru o blith yr holl bwyntiau a nodwyd gennych, pa argymhelliad fyddai hwnnw?

Mapio’r ddarpariaeth bresennol, a ffynonellau ariannol fel bod Llywodraeth Cymru’n glir lle maent hwy am fuddsoddi, a lle maent am i Awdurdodau fuddsoddi i’r dyfodol, a gwneud hyn mewn ymgynghoriad hefo pobl ifanc fel ein bod yn darparu beth maent hwy ei angen ac yn ei werthfawrogi.